Polisi Preifatrwydd

Y data personol rydym yn ei gasglu

Mae gwefan Ffynonellau Ewropeaidd Ar-lein (ESO) (www.europeansources.info) yn casglu data personol gennych chi mewn dwy ffordd:

· data rydych chi’n ei roi eich hun

· data a gesglir yn awtomatig.

Data rydych chi’n ei roi eich hun

Os ydych chi’n cofrestru ar gyfer ein gwasanaeth hysbysiadau ebost, rydym ni’n storio’r wybodaeth bersonol rydych chi’n ei darparu yn eich proffil defnyddiwr. Bydd y data’n cael ei storio cyn hired ag y byddwch yn defnyddio’r gwasanaeth.

Gallwch weld, golygu, neu ddileu eich gwybodaeth bersonol ar unrhyw adeg. Gall gweinyddwyr y wefan hefyd weld y wybodaeth honno a’i golygu. Ni fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth bersonol ag unrhyw un arall.

Data a gesglir yn awtomatig

Mae’r data y mae ein gwefan yn ei gasglu’n awtomatig yn ein helpu i ddeall pa rannau ohoni sydd fwyaf poblogaidd, o ble y daw ymwelwyr a sut maen nhw’n ei defnyddio.

Briwsion

Os oes gennych gyfrif a’ch bod yn mewngofnodi i’r safle, byddwn yn sefydlu briwsionyn dros dro i bennu a yw eich porwr yn derbyn briwsion. Nid yw’r briwsionyn hwn yn cynnwys unrhyw ddata personol, ac mae’n cael ei waredu pan fyddwch yn cau eich porwr.

Cynnwys wedi’i fewnosod o wefannau eraill

Gall y wefan hon gynnwys cynnwys wedi’i fewnosod (e.e. fideos, delweddau, erthyglau, ac ati). Mae cynnwys wedi’i fewnosod o safleoedd eraill yn ymddwyn yn union yr un ffordd a phe byddech wedi ymweld â’r wefan arall.

Efallai y bydd y gwefannau hyn yn casglu data amdanoch chi, yn defnyddio briwsion, yn cynnwys system olrhain ychwanegol gan drydydd parti ac yn monitro eich rhyngweithio â’r cynnwys hwnnw a ymgorfforwyd.

Ystadegau defnyddio

Wrth i chi ddefnyddio ein gwefan, bydd data am y tudalennau yr ymwelwyd â nhw yn cael ei anfon at Google Analytics fel ein bod yn gwybod faint o bobl sy’n ei defnyddio. Mae hyn yn cynnwys y tudalennau unigol yr ymwelwyd â nhw, cyfeiriad IP dienw, y ddyfais, y porwr a’r wefan y daethoch ohoni.

Efallai y bydd data’n cael ei gadw y tu allan i’r UE, ond mae Google yn gydymffurfwyr ardystiedig gyda Privacy Shield UE-UD. Caiff y data ei storio am yn unol â pholisi preifatrwydd Google.